Gwobrau Cymunedol Byd-Eang
2022-23
esboniad y gystadleuaeth
Gwahoddir myfyrwyr blwyddyn 12 sy'n ymgymryd â'u Prosiect Cymunedol Byd-eang fel rhan o Fagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru i gyflwyno ceisiadau cystadleuaeth sy'n gysylltiedig â themâu allweddol Cymru Gynaliadwy:
Dinasyddion gwybodus a gweithgar
Cymdeithas garbon net-sero a bioamrywiol
Economi lleol
Rheoli adnoddau ac atal gwastraff
Bywyd iach ac ansawdd bywyd
Prynwriaeth gyfrifol
Bydd ceisiadau'n cael eu barnu ar ba mor dda y maent yn ymdrin â'r cwestiynau canlynol:
1. Y Broblem – beth ydyw?
2. Ddatrysiadau – beth ydyn nhw, yn lleol neu'n fyd-eang?3. Camau gweithredu – beth yw'r camau nesaf i'w cymryd ar gyfer gweithredu fel rhan o Gymuned Fyd-eang?
Yn ôl disgresiwn y beirniaid, cynigir gwobrau o hyd at £250 yr un yn cael eu cynnig am y ddau gais gorau o dan y gwobrau canlynol:
Gwobr Steve Harris am Ddatblygu Cynaliadwy
Gwobr Alwyn Jones am Ddinasyddiaeth Fyd-eang
Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel o gymdeithion Cymru Gynaliadwy a Phrifysgol De Cymru.
Syniadau i'w hystyried
Poblogaeth ac ymfudo
Lleoliad, symudedd a thrafnidiaeth
Newidiadau mewn defnydd tir, cynefinoedd a bioamrywiaeth
Bwyd a dŵr – ansawdd a swm
Defnyddio a chynhyrchu ynni
Peirianneg y dyfodol
Llygredd a gwenwyndra yn yr amgylchedd
Newid yn yr hinsawdd
Tueddiadau cymdeithasol ac economaidd
Ewyllys gwleidyddol dros newid
Technoleg ac adnoddau – defnydd, prinder a disbyddiad